
Am mwy of wybodaeth
Ebost: bwcio@eryr.cymru
‘Dan Straen yn y Gweithle? Dulliau rheoli straen yn ymarferol ac effeithiol
Disgrifiad:
Ydych chi yn teimlo ‘dan straen yn y gweithle? Methu meddwl lle i ddechrau?
Bydd y cwrs adfywiol hwn yn ffocysu ar ganolbwyntio ar y strategaethau ymarferol mwyaf cyfredol i reoli straen o fewn amgylchedd yr ysgol. Gydag agwedd hwyliog ac ymarferol, mae’r sesiwn yn anelu i ddatblygu eich dealltwriaeth o straen, a rhoi hwb i strategaethau ymdopi a gwella eich hyder a lles. Mae’r cwrs hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai yn y rôl o gefnogi / goruchwylio pobl eraill ac sydd eisiau gwell dealltwriaeth o strwythurau o fewn yr amgylchedd gwaith.
Amcanion:
- Deall beth yw straen a chael trosolwg o dechnegau i’w defnyddio er mwyn ei reoli
- Cynyddu eich dealltwriaeth o straen a phryder, a beth sy’n eich achosi
- Cydnabod eich strategaethau o ymdopi a datblygu sgiliau i reoli straen pellach
- Cynyddu eich hunan-hyder a pharch i reoli sefyllfaoedd sy’n rhai egnïol a heriol
- Darparu ystod o strategaethau ymarferol a phersonol.
- Cyflwyniad i dechnegau ‘Mindfulness and Cognitive Behavioural Therapy’
- Cyfle i drafod ac ymarfer technegau newydd
- Cyfeirio at gefnogaeth sydd ar gael
- Sut i edrych ar ôl eich hun wrth gefnogi pobl eraill
- Cyflwyno Polisi Lles o fewn eich ysgol

Manylion y Cwrs
Pryd a Ble?:
Caerdydd: Dydd Iau, Ebrill 11eg 2019
Gwynedd: Dydd Iau, Mai 23ain 2019
Aberystwyth: dydd Gwener, Ebrill 12fed 2019
Caerfyrddin: dydd Iau, Mai 16eg 2019
Pris:
£225 + TAW neu £195 + TAW (os archebir 2 fis cyn y cwrs)
Cofestru:
9:00yb – 9:30yb
Amser:
9:30yb – 3:00yh
Cynulleidfa:
Cynradd, Uwchradd ac Ysgol Arbennig
Darperir lluniaeth drwy gydol y dydd.

Cysylltwch â ni
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch drwy’r furflen neu drwy bwcio@eryr.cymru.
Diolch am eich neges! Byddwn yn cysylltu â chi cyn bo hir.